Mae fy meiau fel mynyddoedd
Amlach hefyd yw eu rhi'
Nag yw gwlith y bore wawrddydd,
Nag yw sêr y nefoedd fry:
Gwaed fy Arglwydd
Sydd yn abl i olchi 'mai.
Golchi'r ddu gydwybod aflan
Lawer gwynnach eira mân;
Gwneud y brwnt, gan' waith ddifwynodd
Yn y domen, fel y gwlân:
Pwy all fesur
Lled a dyfnder maith ei ras?
Ei riddfannau ar y croes bren
Oedd yn pwyso beiau'r byd;
Poenau pechod oedd ofnadwy,
Poenau f'Arglwydd oedd fwy drud;
'N awr mae cariad
Yn concwerio dwyfol lid.
- - - - -
Mae fy meiau fel mynyddau
Amlach hefyd yw eu rhi'
Nag yw gwlith y boreu wawrddydd,
Nag yw ser y nefoedd fry;
Gwaed fy Arglwydd
Sydd yn unig olchi 'mai.
Mae yn maddeu beiau mawrion,
Mae yn caru yn ddidrai,
A lle caro, mae ei gariad
Yn dragwyddol yn parhau;
Nid oes terfyn
I'w amynedd Ef a'i ras.
Ynddo mae afonydd mawrion
O ffyddlondeb ac o hedd;
Er fy mwyn dyoddefodd angau,
A gorweddodd yn y bedd;
Fel y gallwn
Fyn'd i mewn i'r ddinas bur.
Mae deng myrddiwn o rinweddau
Dwyfol yn ei enw pur;
Yn ei wedd mae
tegwch ragor
Nag a welodd môr na thir;
Mo'i gyffelyb
Erioed ni welodd nef y nef.
William Williams 1717-91
Tonau [878747]: gwelir: Dacw'r ffynnon i'w dymuno Dyma Geidwad i'r colledig Gwyn a gwridog yw fy Arglwydd Nid oes pleser nid oes tegan Wrth dy orsedd 'rwyf yn gorphwys Y mae rhinwedd gras y nefoedd |
My faults are like mountains
More manifold also is their number
Than is the dew of the dawning morning,
Than are the stars of heaven above:
The blood of my Lord
Is able to wash my fault.
Washing the black, unclean conscience
Much cleaner than the fine snow;
Making the filthy, a hundred times defiled
In the dung-heap, like the wool:
Who can measure
The vast breadth and depth of his grace?
His groans on the wooden cross
Were weighing the world's faults;
The pains of sin were terrible,
The pains of my Lord were more costly;
Now love is
Conquering divine wrath.
- - - - -
My faults are like mountains
More manifold also is their number
Than is the dew of the dawning morning,
Than are the stars of the heavens above;
The blood of my Lord
Alone is washing my fault.
He is forgiving great faults,
He is loving unebbingly,
And where he loves, his love is
Eternally enduring;
There is no boundary
To His patience and his grace.
In him are great rivers
O faithfulness and of peace;
For my sake he suffered death,
And lay in the grave;
That we might
Go inside the pure city.
There are ten myriads of divine
Virtues in his pure name;
In his face is
a fairness exceeding
Any sea or land have seen;
His likeness
The heaven of heaven never saw.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|